Lleoliad:
Fideo gynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Mawrth 2021
Amser:
13.30 -
16.55
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11154
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Gwyn Howells, Hybu Cig Cymru Yr Athro Terry Marsden, Prifysgol Caerdydd Pete Robertson, Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru (FDF) Cymru Rachel Sharp, Cyswllt Amgylchedd Cymru Annie Smith, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Arfon Williams, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Clare Trotman, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Katy Orford (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS.
2 Gwaith gwaddol: adfer natur
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gyswllt Amgylchedd Cymru; Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru, ac Y Gymdeithas Cadwraeth Forol.
3 Gwaith gwaddol: allforion bwyd
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Yr Athro Terry Marsden a chynrychiolwyr o Hybu Cig Cymru, a Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Rhestrau Gwledydd Cymeradwy (Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid) (Diwygio) 2021
4.2 Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cymru'r Dyfodol - y Cynllun Cenedlaethol 2040
4.3 Gohebiaeth gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch Cyfarfod Gweinidogol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC) ar y Cyd rhwng Tai a Chynllunio Gofodol
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Gwaith gwaddol: Trafod y dystiolaeth a daeth i law o dan eitemau 2 a 3
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.